top of page
Am Pren

Mae holl eitemau Pren Woodcraft yn cael eu gwneud â llaw mewn gweithdy bach yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru. Rydym yn ymfalchïo mewn gwneud cynhyrchion unigryw, pwrpasol sydd wedi'u crefftio i safon uchel dros ben. 


Rydym yn defnyddio pren wedi'i adfer ar gyfer y rhan fwyaf o eitemau ac mae'n arferol i'r pren fod â rhiciau mân, tolciau, craciau bach a cheinciau. Credwn fod hyn yn ychwanegu at gymeriad y darn. Lle bynnag y bo modd, rydym yn cael deunyddiau gan fusnesau lleol.

​

Mae ein cynnyrch yn cael ei sandio â llaw cyn rhoi cwyr Liberon o ansawdd uchel arnynt; gan roi gorffeniad cynnes, gloyw i arwyneb y pren.

​

Ar ôl rhoi cynnig ar lawer o wahanol ffynonellau, dim ond coesau pin gwallt o'r Hairpin Leg Company yr ydym yn eu defnyddio. Credwn eu bod yn cyflenwi coesau o'r ansawdd uchaf sydd ar gael. Mae ganddyn nhw hefyd yr ystod fwyaf o feintiau, deunyddiau a lliwiau. I weld yr opsiynau sydd ar gael rydym yn argymell ymweld â'u gwefan - The Hairpin Leg Company.

bottom of page